Balchder yng Nghaerfyrddin
Gorsaf Llanelli — wedi’i huwchraddio i bawb

Mae gorsaf Llanelli wedi cael uwchraddiad gwerth £6.3 miliwn drwy gynllun Mynediad i Bawb y llywodraeth — pont droed newydd a chwbl hygyrch gyda lifft, gwell mynediad ramp, gwell teledu cylch cyfyng, goleuadau a phalmentydd botymog. Os ydych chi’n defnyddio’r orsaf honno i fynd i’r gwaith neu i symud o gwmpas, mae bellach yn lle gwell a mwy hygyrch i wneud hynny.
Llwybr newydd — rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, wedi’i adeiladu i bara
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn llwybr cerdded a beicio newydd sbon oddi ar y ffordd drwy Ddyffryn Tywi, a agorwyd yn swyddogol ym mis Mai 2026. Mae’n rhad ac am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’i ddylunio i ddenu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin o bob cwr o’r DU — gan gefnogi busnesau a swyddi lleol yn y tymor hir.
Stori Owen
Mae Owen wedi byw gydol ei oes yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae’n gyn-faer, yn wirfoddolwr cymunedol ac yn un o hoelion wyth y clwb pêl-droed. Yn ôl Owen, dyma beth sy’n gwneud yr ardal yn arbennig:
“Mae pawb yn cyfrannu. Dyna beth rwy’n ei garu am y bobl yma.”
Clybiau lleol yn cael yr hyn sydd arnynt eu hangen

Mae dros £44,000 wedi mynd i glybiau chwaraeon a meysydd hamdden ledled Sir Gaerfyrddin yn 2025/26.
Cafodd Clwb Pêl-droed Rhydaman £25,000 a chafodd Clwb Pêl-droed Calsonic Kansei Swiss Valley ychydig o dan £20,000 — ar gyfer cynnal a chadw’r caeau pêl-droed ac offer storio. Cyfleusterau addas ar gyfer y chwaraewyr sy’n eu defnyddio. Darperir yr ariannu hwn gan Lywodraeth y DU ac fe’i cyflwynir drwy Sefydliad Pêl-droed Cymru.
Cymryd rhan yn Sir Gaerfyrddin
Pobl leol sy’n penderfynu sut mae cyllid y rhaglen Balchder Bro yn cael ei wario. Dewch o hyd i’ch Bwrdd Cymdogaeth chi a helpu i siapio’r hyn sy’n cael ei ariannu nesaf.
Balchder yng Nghonwy
Teithiau glanach yn dod i Gonwy
Mae 165 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus bellach wedi’u gosod ar draws Conwy – gan ei gwneud yn haws i breswylwyr newid i deithio glanach a gwyrddach.
Cymryd rhan yng Nghonwy
Pobl leol sy’n penderfynu sut mae cyllid y rhaglen Balchder Bro yn cael ei wario. Dewch o hyd i’ch Bwrdd Cymdogaeth chi a helpu i siapio’r hyn sy’n cael ei ariannu nesaf.