Skip to main content

Balchder yn eich cymuned

Mae’r llywodraeth yn buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cymunedau ledled y DU i wella’r lleoedd a’r gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd.

O atgyweirio ffyrdd a gwella cysylltiadau trafnidiaeth i ariannu canolfannau cymunedol, cyfleusterau chwaraeon a lleoliadau diwylliannol, mae buddsoddiad yn helpu trefi a dinasoedd fel eich un chi i ffynnu.

Rydyn ni’n gwybod mai newid go iawn sy’n effeithio fwyaf ar fywyd bob dydd – taith gyflymach i’r gwaith, stryd fwy diogel, clwb lleol yn aros ar agor – ac mae pob gwelliant yn rheswm i deimlo’n falch o ble rydych chi’n byw.

Mae mwy yn digwydd yn eich ardal nag y byddech yn ei sylweddoli. Gallwch weld sut mae buddsoddiad y llywodraeth yn gwneud gwahaniaeth yn eich ardal chi, clywed gan y bobl sy’n ei brofi, a helpu i siapio’r hyn sy’n dod nesaf.

Pa gyllid sydd ar gael ar gyfer fy ardal?

Trafnidiaeth a ffyrdd

Mae gorsafoedd rheilffordd newydd, ffyrdd wedi’u hatgyweirio a llwybrau bysiau gwell yn ei gwneud hi’n haws mynd o le i le – p’un ai ydych chi’n cymudo, yn gollwng y plant neu’n cyrraedd lle mae angen i chi fod.

£15.6 biliwn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn Lloegr

Woman waiting for a train in station

Y Stryd Fawr

Mae adeiladau hanesyddol wedi’u hadfer, mannau cyhoeddus gwell a chyfleusterau newydd yn dod â bywyd yn ôl i ganol trefi ledled y wlad.

£15 miliwn i adfer balchder yn strydoedd mawr y Deyrnas Unedig

Chwaraeon a hamdden

Caeau chwaraeon gwell, canolfannau hamdden wedi’u hadnewyddu a pharciau a chlybiau newydd i gyd wedi cael y cyllid i ddal ati – gan helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol.

£400 miliwn wedi’i fuddsoddi i adfer cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad

Football trainer holding a ball, with his mother

Y celfyddydau a diwylliant

Rydyn ni’n adfer theatrau, yn adfywio canolfannau celfyddydau ac yn agor llwybrau diwylliannol newydd ledled y wlad – gan ddod â chymunedau’n nes at y diwylliant sydd ar garreg eu drws.

£1.5 biliwn wedi’i fuddsoddi ym maes celf, diwylliant a threftadaeth

Four young people in a play rehearsal

Adnoddau cymunedol

Mae canolfannau teulu, canolfannau ieuenctid a gerddi cymunedol newydd yn agor ledled y wlad – gan alluogi teuluoedd a phobl ifanc i gael y gefnogaeth sydd arnynt eu hangen arnynt yn nes at eu cartrefi.

£900 miliwn o fuddsoddiad mewn hybiau teuluoedd a gwasanaethau cymorth dros y tair blynedd nesaf

Man in a community centre drinking a cup of tea

Pa gyllid sydd ar gael ar gyfer fy ardal?

Mae’r llywodraeth yn dyrannu cyllid i gefnogi ardaloedd lleol drwy’r rhaglen Balchder Bro. Mae Balchder Bro yn rhaglen 10 mlynedd sy’n rhoi cyllid a phŵer i gymdogaethau sy’n ei chael hi’n anodd wella eu hardal leol. Mae hyd at £20 miliwn ar gael i bron i 400 o gymunedau ledled y DU.

Mae hyn yn golygu y gall eich ardal wario arian ar yr hyn sydd bwysicaf, fel: 

  • glanhau’r stryd fawr a mynd i’r afael â siopau gwag
  • creu neu wella parciau, mannau chwarae a mannau gwyrdd
  • achub tafarndai, llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol lleol
  • cefnogi swyddi lleol a hyfforddiant sgiliau
  • gosod teledu cylch cyfyng i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae’r llywodraeth yn buddsoddi mewn amrywiaeth o raglenni.

Cymryd Rhan

Pobl leol sy’n penderfynu sut mae cyllid y rhaglen Balchder Bro yn cael ei wario. Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn dod at ei gilydd mewn Bwrdd Cymdogaeth i gytuno ar flaenoriaethau a chreu cynllun tymor hir ar gyfer eu hardal.

Dewch o hyd i’ch un chi a helpu i siapio’r hyn sy’n cael ei ariannu nesaf.